O'r Parsel Canol

Friday 30 March 2012

Gwenllian merch Owain Glyndwr: nofel newydd

Rwy'n gweld o Radnorian Redivivus fod llyfr newydd ar y gweill gan Y Lolfa, y tro hwn gan John Hughes am Gwenllian, merch Owain Glyndwr, a fu'n byw yng Nghenarth Saint Harmon gyda'i gwr, Phylip yn y 15g. Mae tipyn amdani a'i theulu gan y bardd, Lewys Glyn Cothi, gan gynnwys cerdd hyfryd am y bardd yn gofyn am gael gwely sgwâr a dillad a llenni'r gwely yn rhodd. Mae trafodaeth ar hon mewn pennod ar decstiliau mewn llyfr a olygwyd gan Geraint H. Jenkins, a thipyn o sôn hefyd am ferched fel hon gan Dafydd Johnston yn ei drafodaeth ar Lewys Glyn Cothi fel 'bardd y gwragedd' yn Taliesin 74 (1991). Mae John Hughes (nid y Prifathro ym Mangor sbosib) hefyd wedi seilio ei waith ar farddoniaeth Ieuan Gyfannedd a Llawdden.


2 Comments:

Anonymous Anonymous said...

Mae'r nofel nawr ar gael! O wefan Y Lolfa (www.ylolfa.com) neu Gwales (www.gwales.com).

20 April 2012 at 13:33  
Blogger Gwenddolen said...

Da iawn! Diolch am roi gwybod --byddaf yn cael gafael ar gopi chwap!

20 April 2012 at 21:18  

Post a Comment

<< Home