O'r Parsel Canol

Saturday 10 September 2011

Cwm y Geist

Enw difyr ar dy yn Llandrindod, wedi'i enwi ar ôl yr un yn Llanbister, lle roedd mintai o fynaich Bwdist yn byw tan yn ddiweddar. Wel dyna oedd enw ein ty ni dros dro pan ddaeth pedair gast Mihangel Morgan i aros gyda ni ym mis Gorffennaf. Tair gast Keeshond, Licris, Losin, a Spangl a Popi yr ast Pyg — pedwarawd deallus, llafar a phenderfynol. Mae'r Keeshonds yn cael eu defnyddio fel cwn cysur gan eu bod mor annwyl ac empathig — yn Ground Zero, yn ôl y son, yn cynorthwyo'r timau achub. Hawdd credu hynny hefyd ar ôl bod gyda'r rhain am ddiwrnod neu ddau a'u gweld yn achub y blaen ar bob dim roeddwn yn ei wneud.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home