O'r Parsel Canol

Sunday 6 March 2011

Cant oed

Cynhaliwyd cyfarfod arbennig o Gylch Cyfraith Hywel Dda ddoe i ddathlu canfed pen blwydd Yr Athro Dafydd Jenkins ar Fawrth 1af. Cyflwynodd nifer o bobl bytiau byr o ryw 12 munud yr un ar wahanol bynciau'n ymwneud รข'r gyfraith ganoloesol: D.B. Walters, Christine James (a oedd yn gwbl wych ac yn mynegi orau y parch enfawr sydd i DJ), Sara Elin Roberts, Huw Pryce (difyr iawn ar J.E. Lloyd a'r Cyfreithiau), Thomas Charles-Edwards, Paul Russell, Morfydd E. Owen, a'r newyddian Noel Cox, Athro'r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cawsom ein hatgoffa gan lythyr a ddarllenwyd oddi wrth Dafydd Wigley ac Andrew Green fod Dafydd Jenkins wedi'i eni yn y flwyddyn y gosodwyd carreg sylfaen y Llyfrgell Genedlaethol.

2 Comments:

Anonymous Anonymous said...

Andrew Green a Dafydd Wigley?

7 March 2011 at 14:34  
Blogger Gwenddolen said...

Y Llyfrgellydd a'r Llywydd.

13 March 2011 at 20:25  

Post a Comment

<< Home