'Lady Principal'
Llawer o ferched Aberystwyth yn llawenhau fod merch yn mynd i fod wrth y llyw yn y Brifysgol o fis Awst 2011 ymlaen. Ond nid April McMahon yw'r ferch gyntaf i ddal swydd uchel yn y sefydliad hwnnw: bu'r Athro Lily Newton yn rhedeg y lle am flwyddyn o interregnum yn 1953, ac yn y ganrif flaenorol cafwyd 'lady principal', sef Emily Ann Carpenter (1834–1933). Yn 1887 fe'i hapwyntiwyd hi 'from a field of eighty-three applicants to the post of lady principal at the University College of Wales, Aberystwyth'. Ac ar ei hôl hi maes o law yr enwyd Carpenter Hall a agorodd ei ddrysau yn 1919. Yn yr Oxford Dictionary of National Biography mae W. Gareth Evans yn sôn am ei dyletswyddau: 'As lady principal Miss Carpenter was entrusted with general disciplinary authority over women students. Strict regulations governed women students' conduct both in the hall and out in the town, and were particularly designed to keep male and female students apart. While encouraging women students to participate in debates, dramatics, clubs, and societies—she herself founded a Browning Society and a German reading society—she insisted on chaperonage'. A dirwest hefyd. Bu farw yn 1933 yn Tunbridge Wells yn 99 oed.
2 Comments:
Dei Tomos sy' 'ma. Rydw i'n cael blas mawr ar eich cyfraniadau - diolch i chi.
Tybed oes na ddeunydd sgwrs ar gyfer y rhaglen radio sydd gen i bob nos Sul ar Radio Cymru ynglyn a merched a fu'n amlwg yng ngweinyddiad neu addysg y brifysgol yn Aber neu a wnaeth waith ysgolheigaidd anghyffredin o ddiglair.
Dim ond rhyw feddwl, ma angen troi pob carreg i gael eitemau a gafael ynddyn nhw!
Cysylltwch os ydi hwn yn syniad gwerth ei ddilyn ymhellach, a tybed fyddech chi'n fodlon gwneud y sgwrs? Diolch Dei
deitomos AT btopenworld.com
Llawer o ferched Aberystwyth erbyn hyn yn teimlo ei bod hi wedi bod yn drychinebus.
Post a Comment
<< Home