Sillavu Llannerchaeron
Llannerchaeron (neu Llannerch Aeron) sy'n gywir, nid Llanerchaeron, y sillafiad a ddefnyddir gan nifer o gyrff fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Urdd. Mae Llan o'i ddilyn gan un sillaf arall sy'n dechrau รข llafariad (yma'r ansoddair erch 'brith, S. dappled', fwy na thebyg) yn dyblu'r -n-; gwelir yr un peth yn ffurf luosog llan, sef llannau. Beth yw lluosog llannerch felly? Wel, mae sawl un, ac un ohonynt yw llanerchau ag un -n-gan fod acen y gair nawr ar y goben. Mae hyn fel carreg ond caregog. Ond gyda Llannerchaeron, mae rhagacen gref ar y sillaf gyntaf, felly -nn- amdani, fel yn y rhan fwyaf o'r hen ffurfiau a welir yn Archif Melville Richards.
0 Comments:
Post a Comment
<< Home