O'r Parsel Canol

Monday 24 May 2010

Glyn-y-groes, 2010


Glyn-y-groes, 2010, originally uploaded by Collen.

Diwrnod pleserus Ddydd Sadwrn ym Mhafiliwn Llangollen ac yna ym mynachlog Glyn-y-groes: cynhadledd ar waith Guto'r Glyn wedi'i threfnu gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Yn serennu yno roedd Bleddyn Owen Huws o'r Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a oedd yn trafod grym y gair — yn enwedig y cywyddau — i wella cleifion, i fod o werth therapiwtig mewn byd pan oed byw heibio i'r hanner cant yn destun rhyfeddod. Ond rwy'n siwr fod yr uchelwyr a ganai Guto iddynt yn fwy tebygol o fyw'n hwy na hynny a hwythau'n mwynhau safon byw gwell na'r cyffredin. Trafododd Barry Lewis yrfa Guto, a chyfeirio at rai o'r problemau sylfaenol — pa Lyn sydd yn ei enw, er enghraifft (Ceiriog, Dyfrdwy, Genau'r Glyn?), a phryd yn union y ganwyd ef. Perfformiad nodedig wedyn gan Richard Suggett a siaradodd am dai'r uchelwyr, eu pensaernïaeth a'u hawyrgylch, ac am y profiad o fod wrth y bwrdd tal adeg gwledd.Yn y prynhawn, roedd Ann Parry Owen, arweinydd prosiect Guto'r Glyn, yn trafod cerddi i noddwyr lleol (Bryncunallt, Pengwern, etc.) oll a'u hachau'n gweu drwy'i gilydd. Nid oeddwn yn gwybod cyn iddi ei ddweud fod Trefor yn dod o Tref + yr enw personol Awr. Eurig Salesbury wedyn yn trafod cerddi Guto i ddisgynyddion Ieuan Gethin -- pobl fel Dafydd o Abertanad, ac Eurig ei hun! Ar ddiwedd y prynhawn, Siân Rees o Gadw yn manylu ar y fynachlog yng Nglyn y Groes lle y bu Guto yn ei henaint. 'Aberystwyth ar ymweliad â Llangollen' o ran y gynulleidfa (o leiaf 30 ohonynt), er bod yno rai pobl leol, ac ambell un o Gaerdydd a Bangor.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home