O'r Parsel Canol

Thursday 20 August 2009

Marwnadu'r Coop

Y Coop ar y Waun oedd y siop fwyd orau o fewn cyrraedd hawdd i'r Parsel Canol — dewis da o bopeth bob dydd, a digon o bethau Masnach Deg a nwyddau ecogyfeillgar. At hynny, roedd y Post, y cynigion rhad, a digon o le i barcio ac i ailgylchu poteli, plastig (ond nid papur a dillad). Mae Somerfield yn mynd i droi'n Coop erbyn diwedd y flwyddyn, medden nhw, ond yn y cyfamser Coop Penparcau amdani (a'r fferyllydd Coop yn Ffordd y Môr) os ydych chi am gasglu pwyntiau ar y Difi. Roedd fy mhrofiad cyntaf yn y siop newydd ar y Waun (CK aka Nisa) yn ddiflas dros ben — yn wir, yn f'atgoffa o Ddwyrain yr Almaen slawer dydd. Mae rhai o'r staff gwreiddiol yno, yn ymdrechu'n lew i gynnig yr un gwasanaeth cyfeillgar ag o'r blaen ond yn cael eu llesteirio gan yr offer wrth y tills, diffyg barcodes, etc. Nid wyf yn ffan o Morrison's am fod y lle mor anferth a'r cyfan yn cymryd gormod o amser; mae'r Treehouse yn ddrud, ond yn dda ar gyfer cig a llysiau lleol. Ond er imi fod yn siopa yn y Treehouse ers blynyddoedd lawer (pan oedd Mr Frost wrth y llyw, lan ar bwys Cloc y Dref), nid wyf i byth yn cael y teimlad 'mod i'n cael fy ngwerthfawrogi fel cwsmer — tybed a ydy pobl eraill yn teimlo fod hynny'n bwysig? Yr un mwyaf serchog yn y siop yw'r dyn yn y siorts. Ond lan staer, yn y café, mae pawb yn groesawgar ac mae'r bwyd yn wirioneddol dda.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home