O'r Parsel Canol

Thursday 29 March 2012

Tattoo Mihangel, Kate Roberts a'r Ystlum, a'r Tu Chwith gorau eto!

Neithiwr yn Ystafell Seddon yn yr Hen Goleg, cafwyd lansiad Y Lolfa o gasgliad newydd Mihangel Morgan, Kate Roberts a'r Ystlum a Dirgelion Eraill yng nghwmni nifer o olygyddion a staff y wasg. Bleddyn Owen Huws o'r Adran Gymraeg a fu'n holi'r awdur, a Jeremy Turner, o'r un ardal â Mihangel, a fu'n darllen rhan o'r stori 'Gwir yn erbyn y Byd' am ddwy wyres J.T. Job yn yr Eisteddfot. Clywsom rywfaint — ond dim digon — am tattoo newydd yr awdur (sdim to bach ar w gen i fan hyn). Rwy'n deall fod rhai o'r myfyrwyr wedi holi heddiw am gael ei weld. Rhywbeth i gofnodi ac i ddathlu'r Flwyddyn Naid oedd y tattoo, meddai Mihangel. Heb ddatgelu gormod, gallaf ddweud fod y llun — canys llun sydd yno, nid caligraffi — mewn man hygyrch a'i fod yn syndod o chwaethus.

Tu Chwith yw'r cyhoeddiad arall sydd newydd hitio'r stondinau — yn lliwus, yn ffres, ac yn llawn stwff y mae rhywun am ei ddarllen. Ac y mae'r print yn ddigon mawr ac yn ddigon clir (wyt ti'n clywed, Taliesin?), ac mae'r dylunio'n dda. Mae Rhiannon Marks (darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, ex Aber) ac Elin Angharad Owen (Nefyn/Aber) wedi comisiynu llwyth o stwff da — Iwan Wyn Rees a'i ddeialogau am yr iaith, cyfweliad gyda Llwyd Owen, stori fer gan Hynek Janousek o Brâg, Elin Llwyd Morgan, un o'r sylfaenwyr, yn cofio'r dechrau, lluniau o Simon Brooks a Mihangel fel yr oedden nhw slawer dydd, Manon Wynn Davies ar iaith y blodau a'r pabi coch, a darn anhygoel lle mae Ffraid Gwenllian yn cyfweld Rhys Llywd, Cardia Cofi. Mae Elena Parina, a fu mor huawdl ar y radio yn adrodd o Fosgo adeg yr etholiadau diweddar, yn sgrifennu am Petrograd Wiliam Owen Roberts, Rhiannon Heledd Williams yn sgrifennu o Harvard (er mai yn Fiena y mae erbyn hyn), ac mae llwyth o gerddi da, lluniau, cartwn, a mwy. Pum punt yn unig, ac mae'n werth pob ceiniog. Hir y parhao.

1 Comments:

Anonymous Anonymous said...

Tu Chwith yn wych, rwy'n cytuno. Gobeithio y bydd rhywun yn gweld synnwys ac yn sicrhau bod grant yn dod iddo.

14 April 2012 at 12:36  

Post a Comment

<< Home