O'r Parsel Canol

Friday 11 September 2009

Shopocracy

Llyfr gwych iawn wedi'i gyhoeddi adeg Steddfod, sef Tales of the Shopocracy gan John Barnie (Gwasg Gomer, £8.99) sy'n sôn am fagwraeth yr awdur yn nhref Y Fenni lle'r oedd ei dad yn berchen ar siop losin. Rwy'n meddwl y gallai'r llyfr hwn ddod yn glasur bach. Mae'n dal i'r dim awyrgylch y dref farchnad hon ar y gororau, a blas cyfnod y pedwar a'r pumdegau. Y tad, fel tad Raymond Williams, yn arddwr tan gamp, ond hefyd yn gwneud hufen ia bob bore yn yr haf, ac yn canio gellyg o'r Eidal ar gyfer y sundaes a weinid yn stafell gefn y siop. Cymaint o fanylion yma, a chymaint o deimlad — darnau ingol o onest. Dim rhyfedd fod y llyfr wedi'i bennu yn Llyfr y Mis.

Mae John Barnie wedi gwneud shwd gyfraniad i ddiwylliant Cymru drwy olygu'r cylchgrawn Planet (sydd bellach yn cael ei golygu gan ei wraig, Helle Michelson), drwy gyhoeddi barddoniaeth a rhyddiaith a hybu materion gwyrdd, a thrwy fod yn gatalydd a chyhoeddi rhes o weithiau cyffrous gan bobl eraill. Roeddwn yn synnu wrth ddarllen y llyfr ei fod wedi'i eni yn 1941 — ond eto mae ef (a'i wraig) yn edrych tua hanner cant oed. Yr holl gerdded egnïol mewn a mas o Gomins Coch i dref Aberystwyth sy'n gyfrifol, mae'n rhaid.

Ar Nos Iau, 19 Tachwedd bydd Dr Matthew Jarvis (o'r Adran Saesneg, Prifysgol Dewi Sant Llanbedr) yn rhoi darlith ar farddoniaeth John Barnie: 'In/human Place: The Poetry of John Barnie' — am 5.00 p.m. Ystafell Seminar y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ger y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home