O'r Parsel Canol

Thursday 28 May 2009

Eglwys Gwenddolen, Llys-wen, sir Frycheiniog

Ni chofnodir yr enw Cymraeg Gwenddolen yn y ffynonellau cynnar, ond ceir Guendoloena yn ferch i Locrinus yng ngwaith Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae. Troswyd y ffurf honno gan y cyfieithwyr Cymraeg (Brut y Brenhinedd) yn Gwenddolau fel arfer. Tybir bod Sieffre o Fynwy wedi meddwl mai enw merch oedd yr enw Gwenddolau (oherwydd yr elfen gwen). Hoffwn wybod pa mor hen yw'r cysylltiad rhwng eglwys Llys-wen a'r 'santes' Gwendoline. Yn yr un ardal, ceir y santes Gwen, merch Brychan Brycheiniog. Ar ei henw hi y cysegrwyd Eglwys Talgarth, sir Frycheiniog. Nid yw'r Gwen honno i'w chymysgu â Gwen Teirbron (ferch Emyr Llydaw). Peter Bartrum yn ei Welsh Classical Dictionary 312 yn dyfynnu barn Dr Thomas Stuttaford (meddyg dof The Times — y tippler's friend sy'n dweud pa mor iachus yw gwin coch) ar y pen hwn: 'Supernumerary nipples and (occasionally, in women) extra breasts are quite frequently seen by doctors'. Rheswm da arall dros beidio â mynd yn feddyg.

2 Comments:

Blogger MacDuff said...

I couldnt understand any of this until my eye alighted upon the supernumerary nipple. Is this to do with the mysterious Saint Gwendoline?
Do you have an online source relating to her that I could look at? Id prefer in English as Google hasnt got round to adding Welsh yet.
thanks

28 May 2009 at 19:29  
Anonymous Anonymous said...

No, the medical curiosity relates to Gwen Teirbron, not to Gwendoline who as I say in my post, is a very shadowy figure, nor to Gwen, the saint commemorated in Talgarth church.
Gwenddolen

29 May 2009 at 09:45  

Post a Comment

<< Home