O'r Parsel Canol

Monday 25 May 2009

Ruth Padel yn ymddiswyddo; Gwyneth Lewis for Professor of Poetry

Newydd ddarllen yn Times Online am ymddiswyddiad Ruth Padel o fod yn Athro Barddoniaeth yn Rhydychen. Trueni mawr, a hithe'n llenor mor dalentog ac amlochrog. Dau o'i brodyr รข chysylltiadau Cymreig -- un yn siarad Cymraeg yn rhugl ac un arall wedi bod yn byw yn sir Benfro. Stand-by am ragor o newyddion o'r Gelli Gandryll yfory pan fydd hi'n siarad yno. Gwych gweld y merched yn serennu: Fflur Dafydd (Gwobr Oxfam), Samantha Wynne Rhydderch, Gee Williams, Deborah Katy Davies (y tair hyn ar restr fer Saesneg Llyfr y Flwyddyn; sioc i mi oed gweld nad oedd cofiant Raymond Williams gan Dai Smith yno). Beth am Gwyneth Lewis nawr i sefyll yn Rhydychen? Galluog tu hwnt: Oxord gel (DPhil) a Chaer-grawnt hefyd, Harvard, Princeton, Lundy Island. . . . byddai hi jest mor wych.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home