O'r Parsel Canol

Wednesday 13 May 2009

Midwyf Taliesin

Perfformiad anhygoel o gerddi'r Taliesin chwedlonol yr wythnos diwethaf gan Sianed Jones: gwisg shaman, llais iasol, ffidl, telyn, harmoniwm, gitâr ynghyd â delweddau ar dair sgrin o Gors Fochno, nofiwr tanddwr, coed, gwallt, etc. Theatr fach gron y stiwdio yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth wedi'i thrydanu gan bresenoldeb Sianed Jones. Y cyfan yn dwyn i gof Ensemble y Silk Road a'r storiwr Ben Haggarty a welais unwaith yn y Llyfrgell Brydeinig, ac nid oedd yn syndod darllen fod Sioned ei hun wedi bod yn gweithio gydag ef a gydag artistiaid a cherddorion o Kazhakhstan. Nifer o gerddi mawr wedi'u dewis: darnau o 'Cad Goddau', y gerdd grefyddol 'Addfwynau Taliesin', fersiwn gwych o 'Canu y Gwynt', a llawer o bethau eraill. Trueni am y taflenni a'r cyfieithiadau. Clip ohoni YMA oddi ar ei gwefan.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home