O'r Parsel Canol

Saturday 16 May 2009

Cyngerdd Haf Aelwyd Pantycelyn I

Cyngerdd Haf arbennig iawn neithiwr yng Nghanolfan Merched y Wawr yn Aberystwyth. Gwahanol gorau, ensembles ac unigolion o Aelwyd Pantycelyn yn cyflwyno eitemau amrywiol. Yr elw'n mynd tuag at Eisteddfod yr Urdd yng Ngheredigion yn 2010. Arweinyddion: Gwawr Loader, Ffion Haf Jones a Steffan Prys Roberts; unawdydd Alaw Tecwyn sy'n astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol ym Manceinion. Dwy gyfeilyddes anhygoel o ddeheuig hefyd, a'r noson dan ofal medrus Llifon J. Ellis. Dros 60 yn y gynulleidfa gan gynnwys gwr a gwraig o Holand; er nad oedden nhw'n deall gair o Gymraeg, dyma uchafbwynt eu gwyliau yng Nghymru, medden nhw. Pob lwc i'r Aelwyd yn Steddfod yr Urdd yng Nghaerdydd!

0 Comments:

Post a Comment

<< Home