Marcio
Faint o amser sydd ei angen i farcio traethawd o ddwy fil o eiriau? Tri chwarter awr os yw'r gwaith yn weddol, ond hyd at awr gyfan os yw'r iaith yn wallus, yr atalnodi'n flêr, a'r cynnwys yn annigonol. Gyda dosbarth o 34, fel sydd gen i yn y set bresennol, mae hynny'n bwyta i mewn i'r wythnos. Bydd 19 arall yn glanio ar y ddesg erbyn Dydd Gwener ynghyd â thraethodau estynedig sylweddol iawn (dros 10,000 o eiriau yr un). Mae marcio gwaith myfyrwyr yn lot o sbort os wyt ti'n gwybod pwy yw'r awduron — ac felly'n dod i'w nabod, dod yn gyfarwydd â'u harddull, eu gwendidau, eu problemau iaith, eu personoliaeth. Ond llai diddorol fel arall, os oes set o draethodau dienw. Fi a'r myfyrwyr ar eu colled rhag ofn i rywun gael cam. A dyna'r drefn bellach, ysywaeth, ac eithrio mewn rhai achosion arbennig.
Labels: Marcio
0 Comments:
Post a Comment
<< Home