Cwningen lafant 1 Lavender rabbit 1
Yn siop Amgueddfa Ceredigion heddiw (yn y Coliseum, Ffordd y Môr, Aberystwyth), deuthum ar draws y cwningod hyn wedi'u gwnïo â llin a'u llenwi â lafant. Rhesymol iawn am £3.50 yr un, a'r calonnau blodeuog yn £3.00. Maen nhw'n boblogaidd iawn ac yn gwerthu'n dda, meddai'r dyn ar y til.
Wyddwn i ddim mai dyfyniad o gerdd gan Waldo Williams oedd y Merch Perygl sy'n deitl ar y retroddetholiad o gerddi Menna Elfyn a olygwyd gan Elin ap Hywel. Mae'r clawr yn dda iawn, a'r Hugan Goch yn edrych ychydig fel y Menna ifanc. Yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaetholyr y cynhaliwyd y lansiad Nos Iau ac roedd yn achlysur arbennig o gynnes a chyfeillgar. Roedd holl deulu Menna yno, gan gynnwys ei hwyres fach newydd (merch Fflur Dafydd), ac edmygwyr lu o'r genhedlaeth hy^n hefyd, gan gynnwys Meredith Evans, a Gillian Clarke a Ned Thomas. Cefais gip ar Sue Jones Davies, Martin Davies, Ceridwen Lloyd-Morgan, Dafydd Johnston, Ifor ap Dafydd, y Barwnig Wigley, Damian Walford Davies, Sue Balsom, y Parchedig Enid Morgan, Elwyn Jones y Cyngor Llyfrau, a Rhiannon Marks (a gyflwynasai draethawd Ph.D. ar waith Menna Elfyn i Brifysgol Aberystwyth ddechrau'r wythnos). Mae Menna ei hun newydd gyflwyno Ph.D. ar yr un pwnc. Dangoswyd ffilm fer newydd amdani, ac fe gafwyd darlleniadau effeithiol iawn gan Elin ap Hywel a chan Menna ei hun. Anodd credu ei bod wedi bod yn barddoni mor hir a hithau mor ffres ac ifanc ag erioed.
Newydd weld llyfr dwyieithog Elgan Philip Davies, sef Yr Hen Goleg / The Old College, yn y gyfres ddeniadol, Cip ar Gymru, wedi'i chyhoeddi gan Wasg Gomer. Bargen am £3.99. Erbyn hyn mae llyfr awdurdodol Roger Webster, The Old College (1995) yn anodd cael gafael arno felly bydd croeso mawr i'r llyfr hwn sydd wedi'i ysgrifennu gan un a fu'n gweithio am flynyddoedd yn yr adeilad hwn. Yr Hen Goleg, cartre'r coleg prifysgol cyntaf yng Nghymru, yw prif ogoniant Aberystwyth, yn ôl Dr John Davies, yr hanesydd. Clywais sawl fersiwn o'r stori am yr hanesydd pensaerniol, Nikolaus Pevsner, yn rowndio'r cornel uchaf i mewn i Faes Lowri ac yn cael ei gip cyntaf ar y coleg ger y lli: 'It is cveit impossible!'. Fel y dywed cyfrol Lloyd, Orbach a Scourfield, Buildings of Wales,'The interiors have suffered neglect and need some spirited colour decoration, but still have a robust and quirky power'. Hir y parhao'r defnydd ohono, a'r gwerthfawrogiad ohono; ewch i weld hommage bara-koukoug.

Ac er bod Daniel Huws a Ted Hughes yn ddau gyfaill triw, nid oes esgus dros ddodi llun o Ted Hughes i gyd-fynd â chofnod Daniel Huws yn Rhestr Gyfredol o Awduron yr Academi Gymreig. Mae eisiau tipyn o sbriws ar safle Llenyddiaeth Cymru.org yn gyffredinol. Mae safle Golwg 360 yn llawer llai deniadol nag a fu, a'r darllen yn anos. Beth oedd yn bod ar yr hen gynllun, tybed?
Y gair yw braenaru 'aredig neu droi tir a'i baratoi ar gyfer ei hau; gadael tir wedi'i droi yn ddigynnyrch dros gyfnod er mwyn difa chwyn a meddalu'r pridd', etc. Sylwaf fod tuedd ar droed — ac nid ymhlith yr ifainc yn unig — i droi hyn yn blaenaru. Hawdd deall pam y mae hyn yn digwydd gyda'r hen dermau amaethyddol fel braenar yn mynd yn llai cyfarwydd. Ond hefyd mae rhyw synnwyr yn peri cysylltu'r ferf â'r gair blaen sydd mor gyffredin, ac mae -l- ac -r- yn hen seiniau digon agos. Roedd 'GIG Bro Morgannwg yn Blaenaru Unwaith Eto' yn ôl eu hunanfroliant yn 2007 gan ddilyn esiampl un o Arolygwyr Estyn yn 2005 efallai: 'Dengys yr ysgol flaengaredd amlwg gyda blaenoriaethau cenedlaethol. Maent yn blaenaru’r tir ar gyfer y cam sylfaen'. Rhywbeth i'w gynnwys dan B yn rhifyn nesaf Geiriadur Prifysgol Cymru efallai?
Yn hedfan yn dawel drwy Banc y Darren ar y beic ac yn dod o fewn anadliad i foda cysglyd ar bostyn wrth ochr yr heol. Wedi meddwl am funud mai rhywbeth wedi'i gerfio oedd yno —rhywbeth tebyg i'r cadno (ffug) ar ben postyn giât yng Nghefn-llwyd. Ac yna, o fewn tair munud, gwelais grychydd yn edrych allan dros Gwm Peithyll o frig y goeden uchaf.
Mae fy hoff flogiedydd wedi taro ar Jenkin Batman yn yr achau canoloesol. Mae ganddo hefyd lawer o sylwadau call, yn ôl ei arfer, am enwau Cymraeg hen sir Faesyfed, ac yntau wedi bod yn pori yn y Transactions of the Radnorshire Society sydd bellach ar-lein. A wyf yn mynd i gadw'r copïau caled — sy'n cymryd lan silff gyfan yn y parlwr? Wel odw, siwr iawn.
Un felin wynt (a godwyd yn ddiweddar gan gymydog ecogar) yn troelli'n braf yn y gwynt sy'n chwythu lan drwy'r cwm. Dau gymydog yn paratoi safle hen dyddyn gogyfer â chodi tyddyn 'gwyrdd' newydd o hen ddeunyddiau. Bydd y welydd yn cael eu leinio â gwlân. Tri phren afalau newydd yng ngardd gefn cymydog sy'n 90 oed. Gweld i'r pedwar cyfeiriad o dop y bryniau: allan heibio i felinau Mynydd Gorddu draw i Garn Fadrun ac Enlli, lawr i felinau'r Mynydd Bach, yn groes i felinau Bwlch Nantyrarian, ac yn ôl dros Barc y Llyn a Phen Dinas. Pum barcud, chwe cheffyl, saith fferm.