O'r Parsel Canol

Sunday, 15 August 2010

Y Persiaid yng Nghilieni

Pum diwrnod nawr i fynd cyn mynd i weld perfformiad o'r Persians gan Aeschylus, ar Fynydd Epynt. Cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol dan Mike Pearson sydd wedi gwneud gwaith mor wych dros y blynyddoedd. Rwy'n cofio'r wefr o weld Brith Gof a Test Dept yn perfformio'r Gododdin yn hen ffatri Rover ym Mae Caerdydd — yn ôl tua 1984 rwy'n meddwl. A'r gynulleidfa erbyn y diwedd yn wlyb sop a'r cylch mawr yn y canol yn llawn dwr. Mae'n dda bod rhaglen deledu wedi'i gwneud yn dangos perfformiadau mewn gwahanol fannau -- yng Nglasgow, ac mewn hen chwarel yn yr Eidal. Coffa da am Brith Gof a'u cyfres o gynyrchiadau am Ryfel, ac am Cliff McLucas y cynllunydd. Mae Rowan O Neill yn gwneud PhD ar waith Brith Gof yn yr Adran Theatr Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae Mike Pearson yn athro. Yr oedd Margaret Ames yn y Gododdin hefyd, gydag Alun Elidyr a nifer o rai eraill a aeth ymlaen i ddod yn enwog.

Mae'r Persians wedi derbyn tipyn o sylw gan bapurau Llundain a chan y beirniad Michael Billington. Rwy'n deall fod y tocynnau wedi hen werthu allan, a lwc imi benderfynu ar hyn, felly, rai misoedd yn ôl. Edrych mlaen yn fawr.

Tuesday, 10 August 2010

map Maesyfed


map Maesyfed, originally uploaded by Gwenddolen.

Monday, 9 August 2010

Trafodion pwysig

Newydd dderbyn Transactions of the Radnorshire Society, y gyfrol am 2008, sy'n cynnwys am y tro cyntaf gyfieithiad i'r Saesneg o ran gyntaf gwaith arloesol a swynol Ffransis G. Payne, Crwydro Maesyfed. Dyma lafur cariad gan Dai Hawkins (Dafydd y Garth), ac mi fydd yn agoriad llygad i drigolion yr ardal nad ydynt yn medru'r Gymraeg. Gyda llyfr Peter Conradi At the Bright Hem of God, a llyfr gwych Richard Suggett ar dai'r gororau, mae'r hen sir annwyl yn mwynhau orig fach eto yn yr haul. Da oedd clywed am y grant sydd wedi'i roi i eglwys Llananno hefyd.
Mae pamffledyn anodd-cael-gafael arno o'r enw Am y Ffin a'r Gorffennol (1993) yn ddarlith lenyddol a draddodwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelwedd nôl yn 1993. Mae'n crynhoi peth o hanes llenyddol yr ardal yn yr oesoedd canol.

Labels:

Sunday, 8 August 2010

Gwanwyn

Roedd gwedd etymolegol ar y bregeth a gawsom yn y capel heddiw (nid gan ein bugail ni). Cafodd y gair gwanwyn ei egluro fel gwan 'weak' + wyn 'lambs' — am mai tymor y defaid a'r wyn yw'r gwanwyn a'r wyn yn dal i fod yn ifanc ac yn wan. I wish. Gwaeanwyn gydag -a- arall yn y canol oedd y gair slawer dydd. A'r gair yn dod o hen air Celtaidd y mae'r geiriaduron yn dweud sy'n perthyn o bell i'r gair Lladin ver 'gwanwyn', etc. — pwy fuasai'n credu? A oes un o'r selogion wedi cael blogspot i ganiatáu rhoi to bach ar w ac y, gyda llaw?

Saturday, 7 August 2010

Y Mac Mouse bwyteig

Y llygoden ddi-wifr newydd sy'n cael lot o ddefnydd, mae'n wir, erbyn hyn yn llyncu dau fatri bob dydd. A oes rhywbeth yn bod neu a fydd rhaid imi brynu teclyn arall i siarsio lan y batris yn dragwyddol. Rhywbeth arall trychinebus heddiw oedd f'arbrawf cyntaf gyda pheiriant gwneud bara -- cefais fenthyg un gan ffrind am gwpl o ddiwrnodau. Am lanast ffiaidd. Rhan o'r broblem efallai am 'mod i wedi anghofio'r dwr y tro cyntaf. Ar ddiwedd y ddwy awr a hanner roedd gwynt ffein drwy'r ty ond och a gwae, y cwbl heb gymysgu a'r blawd amrwd drwy'r 'dorth' i gyd. Af i nôl at wneud y tair torth wythnosol yn yr hen ffordd.

Friday, 6 August 2010

Tudur Hallam a Jerry Hunter

Gwych gweld Jerry Hunter yn tynnu ysbrydoliaeth o stori Gwenddydd a Myrddin ar gyfer ei nofel Gwenddydd a enillodd y Fedal Ryddiaith Ddydd Mercher. Da ei glywed hefyd, pan ofynnodd Beti George iddo a ydoedd erbyn hyn yn ei ystyried ei hun yn Gymro, yn ateb mai Americanwr oedd ef ac nad oedd modd newid cenedligrwydd. Dysgu'r iaith, ie, a rhagori ar ei defnyddio'n greadigol, magu teulu o Gymry, ond eto'n ddigon hyderus i fod yr hyn ydyw. Mae nhw mor dalentog ill dau ac rwy'n edrych mlaen at ddarllen eu gwaith pan gaf fy nwylo ar y cyfrolau yn Siop Inc yfory. Gwlyb a diflas yn y Parsel heno.

Thursday, 5 August 2010

Cadair 1933


Cadair 1933, originally uploaded by Gwenddolen.

Eisteddfod leol Glynebwy 1933 mae'n rhaid, pan roddwyd Cadair am gerdd Saesneg.

Llangynidr


Light hitting fields, originally uploaded by Ed Treasure.

Cwta wyth milltir o fro'r Steddfod yng Nglynebwy. Mae'r ffordd dros y topiau i Beaufort yn un o'r rhai prydferthaf yng Nghymru, yn enwedig y golygfeydd nol i'r Gogledd gyda Llyn Syfaddan yn y pellter, a lawr i 'r dwyrain i gyfeiriad Crughywel.

Friday, 30 July 2010

Y Mynydd Bach, Trefenter


Trefenter, originally uploaded by evans.photo.

Cof da am Lowri Gwilym addfwyn

Thursday, 29 July 2010

Awyr las NEU pen yn y cymylau?

Pa ddiawlineb Sioni-bob-ochr sy'n gyrru Jon Gower i awgrymu mai 'blue sky thinking' fyddai cael Prif Weithredwr S4C nad yw'n medru'r Gymraeg?

Friday, 23 July 2010

Heb fod yn bell


Nearly Sunset, originally uploaded by Mister__T.

Gair yr wythnos: marian

Rhywun o dramor yn holi ai eglwys wedi'i chysegru ar enw Mair Forwyn oedd Llanfarian. Minnau'n egluro nad oes eglwys yno fel y cyfryw, ac mai Eglwys Sant Llwchaearn yw'r un agosaf. Tybir bod llan efallai wedi datblygu o nant yn wreiddiol. Wedyn marian yn golygu 'graean', yn cyfeirio at y traethau graeanllyd a welir ar lan afon Ystwyth yno ar ddwy ochr y bont. Dechreuais feddwl wedyn am Marian-glas, Tanymarian, ac enwau eraill cyffelyb, a hyd yn oed am enw Marian Delyth y ffotograffydd o ardal Blaen-plwyf, ychydig i'r de. Does dim tarddiad wedi'i nodi yn Geiriadur Prifysgol Cymru, ond efallai fod modd ei gysylltu â'r gair Galeg marga a fenthycwyd i Ladin Diweddar marga 'marl'.

A sôn am Marian Delyth na chafodd ei siâr haeddiannol o'r clod am Lyfr y Flwyddyn eleni, mae gennyf gof fod Ted Breeze Jones (lluniau) a Gwyn Thomas (cerddi) wedi bod yn ddeuawd anwahanadwy adeg Llyfr y Flwyddyn 1994 pan oedd eu cyfrol Anifeiliaid y Maes Hefyd ar y rhestr fer o dri gyda Saith Pechod Marwol Mihangel Morgan. Ond Robin Chapman, ein Michael Holroyd ni'r Cymry, enillodd y jacpot y flwyddyn honno yng Ngwesty Sandringham yng Nghaerdydd. Cofiant W.J. Gruffydd. Cof anhygoel? Na, roedd eich bloggiste yn un o'r beirniaid y flwyddyn honno pan oedd y drefn yn bur wahanol, ac yn decach hefyd.

Llyfr nodiadau Burma

Hysbysebu hudolus o greadigol gan gwmni dillad Nigel Cabourn yn dwyn i gof hen albwms fy nhad o'r cyfnod pan oedd allan yn India yn ystod y rhyfel. Y shorts, y bag ('partly hand made by ladies in an old leatherworks tannery in Cumbria'!), y cwbl mor amhosib o wych a retro. A phetawn yn fachgen buaswn yn bendant yn mynd am y siwmper yma 'inspired by the jumper worn by Tom Bourdillon who was famously pictured wearing it inside-out. We made the piece inside-out to stay true to this image'. Bron cystal â chot ddyffl Kenneth More yn Sink the Bismarck.

Thursday, 22 July 2010

Bach Double Violin Concerto a'r deisen

Y ddolen hon yn caniatáu i rywun sy'n canu'r fiola i chwarae rhan yr ail ffidil. Wedi mwynhau gwneud hynny heno ar ôl bwyta darnau anferth o deisen siocled foethus a ddyfeisiwyd gan Ottolenghi (o'r llyfr cyntaf). Y Biscotti Pistachio a Sinsir o'r un llyfr hefyd yn dda iawn. Ond Nige Slater yw'r cogydd mwyaf ysbrydoledig ac ymarferol: yr hen Kitchen Diaries a gefais gan fy mam yn ddiguro am syniadau tymhorol sbot-on.

Saturday, 17 July 2010

Noson gydag Arthur


Noson gyda Arthur, originally uploaded by Gwenddolen.

Friday, 16 July 2010

Graddio gydag UMCA

Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn torri'r traddodiad o gynnal defod UMCA yn y dref (yn y Morlan y bu y llynedd, a chyn hynny yng Nghapel y Morfa, a chyn hynny yn yr Hen Neuadd yn yr Hen Goleg). Gan fod y ddefod eleni ar ddiwrnod gwahanol i'r arfer, nid oedd ond cwpl o rieni a ffrindiau yno ym Mhantycelyn ar wahân i'r myfyrwyr a'r gŵr gwadd Eurig Salisbury a oedd wedi cyfansoddi cerdd wych at yr achlysur -- yn cyffelybu bywyd Cymraeg Aber i swigen neu cocoon, ac yn annog y graddedigion i ddal gafael yn eu delfrydau a'u sêl dros yr iaith. Sylwedd a steil hefyd.