Castell Razo: llun gan Nigel Callaghan
Ein castell ni yn y Parsel yw'r un a geir yn SN68SE1 a ddisgrifir fel hyn yn Coflein, gwefan ddefnyddiol y Comsiiwn Henebion:
Llyfr gwych iawn wedi'i gyhoeddi adeg Steddfod, sef Tales of the Shopocracy gan John Barnie (Gwasg Gomer, £8.99) sy'n sôn am fagwraeth yr awdur yn nhref Y Fenni lle'r oedd ei dad yn berchen ar siop losin. Rwy'n meddwl y gallai'r llyfr hwn ddod yn glasur bach. Mae'n dal i'r dim awyrgylch y dref farchnad hon ar y gororau, a blas cyfnod y pedwar a'r pumdegau. Y tad, fel tad Raymond Williams, yn arddwr tan gamp, ond hefyd yn gwneud hufen ia bob bore yn yr haf, ac yn canio gellyg o'r Eidal ar gyfer y sundaes a weinid yn stafell gefn y siop. Cymaint o fanylion yma, a chymaint o deimlad — darnau ingol o onest. Dim rhyfedd fod y llyfr wedi'i bennu yn Llyfr y Mis.
Un o gyfres a wnaed adeg dathliadau'r Mileniwm: holl eglwysi'r ardal o gwmpas Ross-on-Wye. Nid wyf wedi cofnodi pa eglwys yn union yw hon. Y gwaith gwnïo yn syfrdanol.
Llinell newydd Hobbs (NW3) yn cynnwys yr eitem retro hon sy'n dwyn i gof y pethau hynny o'r 1960s — y mentyll, y bagiau llaw a'r bagiau dyffl, ac ati. Pwy fuasai'n meddwl?
'Count on us' mewn Saesneg safonol, wrth gwrs. Ac wrth siarad yn ffurfiol mae'r Saeson yn sôn am 'we historians' pan fydd yr ymadrodd ar sefyll ar ei ben ei hun, neu yn oddrych y ferf. Ond ansicrwydd mawr erbyn hyn pan fydd gofyn am wrthrych y ferf, a'r gorgywiro yn troi 'count on us historians' yn 'count on we historians'. Clywais enghraifft debyg i hon ar Radio 4 y diwrnod o'r blaen. Mae rhywun yn gyfarwydd iawn â 'between you and I', enghraift arall o orgywiro, ond mae hyn yn rhywbeth newydd i mi. Yr hen sir Faesyfed eto'n poeri'n ogoneddus yn wyneb pob rheol a safon, fel ar un o gerrig beddau'r ardal: 'Him that was is gone from we; we that is do mourn for he'. Gwr cymharol ifanc yn ei dridegau o ardal Llanfihangel Helygen (yes!) yn cyfeirio at 'strimmer' fel 'him': 'We'll take him out and get him started; Then you can try him'. Swnio mor hyfryd fy mod wedi cytuno i brynu'r teclyn yn y fan a'r lle.
Y Coop ar y Waun oedd y siop fwyd orau o fewn cyrraedd hawdd i'r Parsel Canol — dewis da o bopeth bob dydd, a digon o bethau Masnach Deg a nwyddau ecogyfeillgar. At hynny, roedd y Post, y cynigion rhad, a digon o le i barcio ac i ailgylchu poteli, plastig (ond nid papur a dillad). Mae Somerfield yn mynd i droi'n Coop erbyn diwedd y flwyddyn, medden nhw, ond yn y cyfamser Coop Penparcau amdani (a'r fferyllydd Coop yn Ffordd y Môr) os ydych chi am gasglu pwyntiau ar y Difi. Roedd fy mhrofiad cyntaf yn y siop newydd ar y Waun (CK aka Nisa) yn ddiflas dros ben — yn wir, yn f'atgoffa o Ddwyrain yr Almaen slawer dydd. Mae rhai o'r staff gwreiddiol yno, yn ymdrechu'n lew i gynnig yr un gwasanaeth cyfeillgar ag o'r blaen ond yn cael eu llesteirio gan yr offer wrth y tills, diffyg barcodes, etc. Nid wyf yn ffan o Morrison's am fod y lle mor anferth a'r cyfan yn cymryd gormod o amser; mae'r Treehouse yn ddrud, ond yn dda ar gyfer cig a llysiau lleol. Ond er imi fod yn siopa yn y Treehouse ers blynyddoedd lawer (pan oedd Mr Frost wrth y llyw, lan ar bwys Cloc y Dref), nid wyf i byth yn cael y teimlad 'mod i'n cael fy ngwerthfawrogi fel cwsmer — tybed a ydy pobl eraill yn teimlo fod hynny'n bwysig? Yr un mwyaf serchog yn y siop yw'r dyn yn y siorts. Ond lan staer, yn y café, mae pawb yn groesawgar ac mae'r bwyd yn wirioneddol dda.